Project

Arolwg Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol

 Wedi'i ariannu ar y cyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Caerfyrddin, mae preswylwyr Sir Gaerfyrddin yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn Arolwg Rhandiroedd a Th

Local Places for Nature Carmarthenshire

 Wedi'i ariannu ar y cyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Caerfyrddin, mae preswylwyr Sir Gaerfyrddin yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn Arolwg Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol ar-lein. Bydd hyn yn helpu'r Awdurdod Lleol i ddeall yn well y diddordeb a'r angen am fannau o'r fath ar draws y sir. 

Gall rhandiroedd a mannau tyfu cymunedol ddarparu nifer o fanteision ac alinio ag agenda'r Awdurdod i gefnogi iechyd a llesiant, hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw a chreu lleoedd.   

Os hoffech gymryd rhan yn ein harolwg ar-lein, dilynwch y ddolen isod.

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd neu os oes angen help arnoch i gael mynediad i'r arolwg hwn, cysylltwch â thîm Prosiect Gwyrddu Sir Gâr. Byddant ar gael naill ai i fewnbynnu'r wybodaeth hon i chi dros y ffôn neu anfon copi papur o'r arolwg atoch os yw'n well gennych. 

Rhif ffôn: (ar gael rhwng 9am ac 1pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)

E-bost: Gwyrddu@sirgar.gov.uk 

Ni ddylai'r arolwg gymryd mwy na 10 munud i'w gwblhau ac mae ar gael rhwng 29 Mai a 28 Mehefin 2024. 

Arhoswch yn wybodus

Dilynwch ein prosiectau i gael hysbysiadau am weithgareddau sydd ar ddod a'r newyddion diweddaraf am brosiectau.