Dweud eich dweud!
Dweud eich dweud! Wedi'i ariannu ar y cyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Caerfyrddin, mae Tîm Gwyrddu Sir Gâr ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriadau cyhoeddus ar ddw
Local Places for Nature Carmarthenshire
Wedi'i ariannu ar y cyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Caerfyrddin, mae Tîm Gwyrddu Sir Gâr ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriadau cyhoeddus ar ddwy strategaeth ddrafft:
Strategaeth Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol Ddrafft
Ers amser maith, mae Sir Gâr wedi cael ei galw'n 'Gardd Cymru’. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae diddordeb mewn cyfleoedd tyfu bwyd lleol wedi cynyddu mewn poblogrwydd. Mae corff o dystiolaeth sy'n cefnogi'r syniad y gall tyfu eich cynnyrch eich hun fod o fudd i bobl a'r blaned, boed hynny drwy wella llesiant corfforol a meddyliol neu drwy gyfyngu ar nifer y milltiroedd bwyd ar ein platiau. Fel cydrannau cynhenid Seilwaith Gwyrdd a Glas, mae Rhandiroedd a Mannau Tyfu Cymunedol yn cynrychioli atebion pwysig sy'n seiliedig ar le tuag at hyrwyddo dewisiadau ffordd o fyw egnïol ac atal problemau iechyd a llesiant ymhlith ein cymunedau.
“Rydym yn falch o gyflwyno'r Strategaeth Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Cam hanfodol tuag at feithrin dyfodol mwy gwyrdd, iach a chynaliadwy i'n cymunedau. Mae'r strategaeth yn amlinellu ein gweledigaeth ar y cyd ar gyfer creu mannau hygyrch a ffyniannus lle gall pobl gysylltu â natur, tyfu eu bwyd eu hunain a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cyfrannu at eu llesiant.”
Cyng. Aled Vaughan Owen & Cyng. Carys Jones
Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas Ddrafft
Yn unol â Chynllun Llesiant ein Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, mae datblygiad y Strategaeth hon wedi'i chynllunio i ymgorffori dull Seilwaith Gwyrdd a Glas o gynllunio gofodol sy'n canolbwyntio ar sicrhau bod nwyddau cyhoeddus yn cael eu darparu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, amlswyddogaetholdeb, a hyrwyddo'r defnydd o Atebion Seiliedig ar Natur, lle bynnag y bo'n briodol. Yn y bôn, mae'n cydnabod y dylid ystyried ein hadnoddau naturiol a lled-naturiol yn 'seilwaith' pwysig yn union fel nodweddion adeiledig, ac y byddant ond yn parhau i fod o fudd i ni os byddwn yn cynllunio, buddsoddi ynddynt, ac yn eu rheoli yn rhagweithiol i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n gynaliadwy.
“Fel Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin, mae’n bleser gennym gyflwyno ein strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas ar gyfer y sir. Mae'r strategaeth hon yn canolbwyntio ar y rhwydwaith o fannau gwyrdd a glas yn Sir Gaerfyrddin ac mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i sefydlu sylfaen gref sy'n gwella'r lleoedd rydym yn byw ynddynt tra'n sicrhau datblygu cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
Cyng. Darren Price & Dr. Andrew Cornish
Cliciwch yma i ddweud eich dweud.
Ni ddylai pob arolwg gymryd mwy na 15 munud i'w gwblhau ac mae'n fyw tan 21 Mawrth 2025.
Arhoswch yn wybodus
Dilynwch ein prosiectau i gael hysbysiadau am weithgareddau sydd ar ddod a'r newyddion diweddaraf am brosiectau.