Project

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Dysgwch am y prosiectau a'n nodau ar gyfer y dyfodol.

Local Places for Nature Carmarthenshire

Amdanom ni

Cartoon green tree

Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru, sydd â’r nod o greu a chefnogi prosiectau i adfer a gwella byd natur o fewn cymunedau lleol.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ardaloedd o amddifadedd uchel a’r rhai sydd â’r mynediad lleiaf at fyd natur yng Nghymru, yn enwedig o fewn amgylcheddau trefol ac amdrefol.

Rheolir cangen o'r cyllid hwn gan brosiect Partneriaeth Natur Leol Cymru.

Ledled Sir Gaerfyrddin, mae amrywiaeth o brosiectau'n cael eu darparu mewn partneriaeth â'r Cyngor Sir a'i Bartneriaeth Natur Leol ei hun. Gallwch weld manylion llawer o'r prosiectau hyn yma.

Mae rhagor o gynlluniau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cael eu darparu gan Cadwch Gymru'n Daclus a Chronfa Dreftadaeth y Loteri .

Adeiladu Rhwydweithiau ar gyfer Adfer Natur

cartoon spade stuck in a pile of soil

Rydym yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau, grwpiau ac unigolion o fewn y gymuned i ddatblygu partneriaethau cryf a rhwydweithiau cynaliadwy ar gyfer adfer natur.

Rydym yn gwneud hyn oherwydd, er bod gan Sir Gaerfyrddin amrywiaeth wych o gynefinoedd a rhywogaethau, mae tystiolaeth wedi dangos bod bioamrywiaeth yn dirywio.

Efallai nad ydym bob amser yn ei werthfawrogi, ond mae ein llesiant yn dibynnu ar iechyd yr amgylchedd naturiol. Os ydym am ei ddiogelu a’i adfer yn llwyddiannus, mae arnom angen cynllun da ac mae angen i ni gydweithio i’w gyflawni.

3 people planting trees

Ein Nodau a'n Dulliau Gweithredu:

cartoon clipboard with bullet points and ticks

Ein Nodau:

  • Helpu i adfer a gwella gwerth naturiol tir cyhoeddus mewn ffordd a fydd o fudd i fywyd gwyllt a phobl
  • Darparu “natur ar garreg eich drws”, lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus
  • Annog a chefnogi dulliau gweithredu a arweinir gan y gymuned leol
  • Annog pobl i uniaethu’n fwy â'r amgylchedd naturiol

Garnant Nature Garden containing a wildlife pond

Gardd Bywyd Gwyllt Gymunedol Garnant yn Rhydaman

outlines of 3 people with cogs above their heads



  • Ein Dulliau Gweithredu:
  • Dylunio a chreu ardaloedd o dir cyhoeddus sydd â mwy o amrywiaeth naturiol, a fydd hefyd yn darparu buddion i iechyd a llesiant y cyhoedd
  • Helpu i greu a chefnogi mannau garddio cymunedol, fel perllannau ac ardaloedd tyfu bwyd
  • Gwella mynediad at fannau gwyrdd naturiol lleol
  • Casglu barn y gymuned a datblygu partneriaethau gyda grwpiau ac unigolion lleol

Local community members helping to plant an orchard

Aelodau'r gymuned leol yn helpu i blannu perllan

Sut i Gymryd Rhan

  • Pwrpas y wefan hon yw hyrwyddo ac annog sgyrsiau cymunedol am nodau, dulliau gweithredu a phartneriaid y prosiect.
  • Gallwch ddechrau cymryd rhan drwy lenwi ein harolwg a rhannu eich barn ar ein map rhyngweithiol.
  • Cofiwch hefyd gofrestru eich cyfeiriad e-bost ar ein hafan i dderbyn newyddion am ddigwyddiadau a gweithgareddau yn eich ardal leol.

Two teenagers planting flowers in bench planters

Edrychwch ar y dolenni canlynol am ragor o wybodaeth:

Cymru - Sefyllfa Byd Natur

Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin (llyw.cymru)

Partneriaeth Natur Leol Cymru

Bioamrywiaeth (llyw.cymru)

Peillwyr (llyw.cymru)

Bywyd gwyllt yn eich ward (llyw.cymru)

Ewch o gwmpas y lle ! (llyw.cymru)

Arhoswch yn wybodus

Dilynwch ein prosiectau i gael hysbysiadau am weithgareddau sydd ar ddod a'r newyddion diweddaraf am brosiectau.