Project

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn ceisio barn i wella llesiant lleol

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro yn gofyn am farn trigolion i ddarganfod beth sy'n bwysig iddyn nhw a'u cymunedau lleol. Gwerthfawrogir petai modd i chi rannu y wybo

Local Places for Nature Carmarthenshire

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro yn gofyn am farn trigolion i ddarganfod beth sy'n bwysig iddyn nhw a'u cymunedau lleol. Gwerthfawrogir petai modd i chi rannu y wybodaeth ymhlith eich cysylltiadau. 

Bydd y canlyniadau sy'n cael eu casglu yn helpu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ddeall y ffactorau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol sy'n effeithio ar lesiant unigolion a chymunedau.

Bydd yr ymatebion i'r arolwg llesiant rhanbarthol yn cael eu dadansoddi a byddan nhw'n cyfrannu at Gyd-Gynllun Llesiant Ceredigion/Sir Gâr 2028-2033. Bydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro hefyd yn cyhoeddi ei gynllun lleol.

Er mwyn helpu i lunio dyfodol llesiant, cwblhewch yr  erbyn 8 Awst 2026.  

Dolen at yr holiadur: Asesiad o Lesiant Lleol - Cyngor Sir Caerfyrddin

Mae yna fersiwn Pobl Ifanc ar gael drwy’r ddolen hon hefyd. 

Arhoswch yn wybodus

Dilynwch ein prosiectau i gael hysbysiadau am weithgareddau sydd ar ddod a'r newyddion diweddaraf am brosiectau.