Project

Plygu Perthi

Plygu Perthi: rhan o etifeddiaeth Tirweddau a Chymunedau CymruYn Sir Gaerfyrddin, mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn dathlu crefft wledig draddodiadol sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn yn nhreftadae

Local Places for Nature Carmarthenshire

Plygu Perthi: rhan o etifeddiaeth Tirweddau a Chymunedau Cymru

Yn Sir Gaerfyrddin, mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn dathlu crefft wledig draddodiadol sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn yn nhreftadaeth Cymru: Plygu Perthi, sef techneg lle torrir drwy'r bonion yn rhannol a'u plygu i ffurfio rhwystr byw.

 

 Disgybl ysgol uwchradd Sir Gâr, yn ymarfer toriad "plethu"

Mae Plygu Perthi yn arferiad ym Mhrydain ers canrifoedd, yn ôl pob tebyg ymhell cyn y 'Deddfau Cau Tir' rhwng 1600 a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ganrif - pan roddwyd ein systemau caeau eiconig presennol ar waith. Caiff dros 30 o amrywiadau rhanbarthol eu cydnabod ym Mhrydain, ac mae gan Gymru ei harddulliau penodol ei hun y dylanwadwyd arnynt gan anghenion lleol, arferion ffermio a'r amgylchedd. 

Gellir rhannu arddulliau plygu perthi Cymreig yn ddau gategori: Mae'r cyntaf yn cael ei ddefnyddio ar blanhigion sy'n tyfu'n syth o wyneb y cae – a elwir "Y Gororau" fel rheol – ac yn aml mae'n arddull "stacio a phlethu" lle mae llawer o'r amrywiadau â rhwymwr cyll neu helyg i ddal y stanciau. 

 

 Perth ffurf "stancio a phlethu" ar waith yn Llandeilo ym mis Hydref 2025

Mae'r ail yn cael ei ddefnyddio ar blanhigion sy'n tyfu ar ben cloddiau. Amrywia'r technegau yn eu harddull, a cheir gwahaniaethau rhwng Gŵyr a Sir Benfro, Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed, a'r arddulliau "tocio a phlethu" a geir yn Sir Gâr. Yma fe'u gelwir yn lleol yn glawdd gwartheg, a boed yn llawn neu'n hanner maint cânt eu defnyddio gyda 'bachau' i ddal y bonion wedi'u plethu yn eu lle, gan greu rhwystr taclus i dda byw.  

 

 Perth ar ffurf "tocio a phlethu", Dyffryn y Swistir, Llanelli

Mae gan y grefft o blygu a chynnal perthi yn briodol lawer o fanteision yn ogystal â chadw stoc fferm rhag crwydro. Er enghraifft, mae perthi wedi'u rheoli'n dda yn goridorau bioamrywiaeth sy'n helpu i gysylltu cynefinoedd naturiol, gan ddarparu lloches hanfodol a bwyd i fywyd gwyllt. Gallant gynnwys amrywiaeth anhygoel o rywogaethau o blanhigion, gan mai gweddillion coetiroedd hynafol ydynt yn aml; gallant hefyd helpu i leihau erydiad pridd, storio llawer iawn o garbon yn y pridd, yn ogystal â chreu rhwystrau effeithiol yn erbyn y tywydd garw a llygredd. 

Yn anffodus, mae perthi ac arferion plygu perthi wedi dirywio'n arw ers yr Ail Ryfel Byd, oherwydd mecaneiddio, ehangu trefol, esgeulustod a ffensio. Fodd bynnag, yn y 1970au sefydlwyd y Gymdeithas Plygu Perthi Genedlaethol, ac o ddiwedd y 1990au, ffurfiwyd deddfau i warchod perthi presennol. 

Diolch i sgiliau'r plygwr perthi lleol Malcolm Edwards a chefnogaeth cyllid Llywodraeth Cymru, mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur hyd yn hyn wedi gallu cefnogi plygu dros 700 metr o berthi ar 4 safle ledled Sir Gaerfyrddin yn y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys o leiaf 70 o bobl leol sydd wedi dysgu'r sgiliau hyn drostynt eu hunain. Gobeithio bydd y perthi adfywiedig hyn yn helpu i wella ein profiad o'r dirwedd – gan adrodd i ni straeon am natur sydd bendant yn rhan annatod o'n treftadaeth wledig!  

 

 Gwirfoddolwyr yn dysgu'r grefft yng Nghronfa Ddŵr Dyffryn y Swistir, Llanelli                                                           

Arhoswch yn wybodus

Dilynwch ein prosiectau i gael hysbysiadau am weithgareddau sydd ar ddod a'r newyddion diweddaraf am brosiectau.